Chwilio yn ol llais

Mis prysurach yw’r mis hwn! Aeth digwyddiad Menywod yn y Gwaith Engage to Change yn dda a siaradodd un o’n llysgenhadon Elsa yn y digwyddiad gyda chyflogai Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan Lucy Hinksman. Cawson ni gyhoeddusrwydd da a pheth adborth gwych.  Gobeithio i ni allu annog mwy o fenywod ifanc i ymuno â’r prosiect oherwydd bod menywod yn cael eu tangynrychioli.

Rhwydweithio â sefydliadau eraill yw rhan o’m rôl fel Prif Lysgennad. Gofynnwyd i fi siarad yn nigwyddiad Supported Loving ar Zoom ym mis Ionawr gyda Siân Davies o Mencap.  Yn y gynhadledd, buon ni’n siarad am anhawsterau y mae pobl gydag anableddau dysgu yn eu hwynebu, nid lleiaf pan maen nhw’n dod allan fel LGBT. Gwnes i gyflwyniad am y gwarthnod o ddod allan a chawson ni adborth positif oddi wrtho.

Hefyd mae’r Tîm Awtistaeth Cenedlaethol wedi gofyn i fi barhau i weithio’n agos gyda nhw wrth symud ymlaen, er bod fy rôl ar eu gweithgor i ail-ddylunio’r gwefan wedi dod i ben bellach.

Rydw i wedi bod yn dal lan gyda phob un o’r llysgenhadon yn unigol ar Zoom y mis hwn ac yn gweithio gyda’m rheolwr llinell er mwyn cynllunio diwrnodau hyfforddi gloywi i bob un ohonyn nhw am gyflwyniadau Engage to Change maen nhw’n eu rhoi i rywun â diddordeb mewn dod yn rhan o’r prosiect.

Digwyddodd Fforwm Gwerthuso’r Prosiect fel rhan o’m Hawr Hwyl ar y 15 Ionawr.