Chwilio yn ol llais

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Engage to Change bapur ymchwil ar gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn y cyfnod pontio.

Mae’r papur yn dangos bod y prosiect wedi darparu cymorth hyfforddwr swydd a model cyflogaeth â chymorth i 1,008 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ledled Cymru ers ei lansio. Mae’r papur yn amlygu’r lefelau isel o gyflogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac yn pwysleisio pwysigrwydd cyflogaeth â chymorth a dulliau interniaeth.

Dulliau addawol ar gyfer gwella canlyniadau cyflogaeth

Darganfyddodd yr ymchwil bod oedran a phrofiad gwaith blaenorol yn gysylltiedig â chyfraddau cyflogaeth uwch, a bod lleoliadau â thâl ac interniaethau â chymorth yn arbennig o effeithiol o ran cynyddu cyfraddau cyflogaeth. Mae’r ymchwil yn dangos y gall profiad gwaith o ansawdd uchel sy’n cael ei drefnu, ei gefnogi a’i adnoddau’n briodol tra bod pobl ifanc yn dal yn yr ysgol neu’r coleg arwain at ganlyniadau cyflogaeth gwell.

Crynodeb o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil:

  • Darparodd Engage to Change gymorth hyfforddwr swydd a model cyflogaeth â chymorth i 1,008 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ar draws Cymru yn ystod y 5 mlynedd gyntaf y prosiect.
  • O’r 1,008 o bobl ifanc hyn, daeth 231 o hyd i waith cyflogedig, cyfradd o 23% yn seiliedig ar atgyfeiriadau.
  • Roedd cyfraddau cyflogaeth yn uwch ar gyfer pobl ifanc awtistig ar 27%.
  • Roedd oedran a phrofiad gwaith blaenorol yn gysylltiedig â chyfraddau cyflogaeth uwch, gyda 70% o garfanau hŷn wedi cael profiad gwaith blaenorol.
  • Canfuwyd bod lleoliadau cyflogedig ac interniaethau â chymorth yn arbennig o effeithiol o ran cynyddu cyfraddau cyflogaeth, gan gyflawni cyfradd cyflogaeth o 37% o’u defnyddio gyda’i gilydd.

 

Strategaethau i’w hystyried wrth symud ymlaen

I gloi, mae’r ymchwil yn dangos rhwystrau y mae pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau cyflogaeth. Ond mae hefyd yn dangos, gyda’r cymorth cywir, gan gynnwys profiad gwaith o ansawdd uchel a chyfleoedd cyflogaeth â chymorth, y gall y bobl ifanc hyn wella eu rhagolygon gwaith. Mae’r canfyddiadau’n galw am fwy o fuddsoddiad mewn cyflogaeth â chymorth a dulliau interniaeth, yn ogystal â chynllunio pontio sy’n ymgorffori hyfforddiant swydd a pharatoi ar gyfer y gweithle. Drwy wneud hyn, gallwn helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i oresgyn rhwystrau cyflogaeth a chyflawni mwy o annibyniaeth a llwyddiant yn eu gyrfaoedd wrth symud ymlaen.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth wrth iddynt drosglwyddo i gyflogaeth, rydym yn eich annog i ddarllen yr adroddiad ymchwil llawn isod.

Nodyn: Maer data yn yr adroddiad yma yn edrych ar y 5 mlynedd cyntaf y prospect i fynu hyd at 2021.

Cymraeg: Adroddiad Cymraeg

Saesneg: Adroddiad Saesneg