Chwilio yn ol llais

“Dwi’n caru’r lle yma. Rwy’n ddiogel yma. Yn ogystal â fy swydd, hwn yw fy lle diogel. Dim dim ond fy amgylchedd gwaith yw hi; mae hwn fel fy ail cartref. Dwi’n caru bod yma ac rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i ddod yma a symud ymlaen i rhywbeth, ar ôl popeth yr wyf wedi bod drwyddo.”

Ar Diwrnod Rhyngwladol Menywod rydym ni’n dathlu menyw ifanc nodedig sydd wedi sicrhau swydd yn llwyddiannus trwy Engage to Change. Stori Levi yw hwn.

Mae Levi wedi bod yn gweithio yn Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin ers Ebrill 2018, ond nid yw ei llwybr i’r lle y mae hi’n disgrifio fel ei ‘lle diogel’ wedi bod yn un llyfn. Mae ganddi hi anabledd dysgu ac fe’i diagnoswyd gyda awtistiaethyn y pen draw ar ôl aros am flynyddoedd. Arweiniodd diffyg cefnogaeth priodol, ymhlith pethau eraill, at anhawsterau yn yr ysgol a coleg. Dilynwyd hyn gan profiadau gwael gyda cyflogwyr nad oedd gan agwedd cefnogol tuag at ei chyflyrau. Fel canlyniad, bu ei hiechyd meddwl yn ddioddef, yn gwneud hi i amau y byddai  byth yn dod o hyd i gyflogaeth ystyrlon.

Yn drychinebus, collodd Levi ei babi, Pearl Ivy, yn 2017. Roedd y golled yn ddinistriol, ac yn parhau i fod. Ond roedd Levi yn gwybod bod rhaid iddi ddarganfod pwrpas arall. Yng nghanol ei galar, ffeindiodd ei mam Amanda Engage to Change ar y we ym Mai 2017, a penderfynodd Levi bod rhaid iddi “ffeindio rheswm i adael y tŷ a profi rhywbeth newydd.”

Nid oedd ei lleoliad gwaith cyntaf, yn nerbynfa clinig ffisiotherapydd y GIG, yn ffitio hi’n gywir. Roedd gormod o bobl yn y swyddfa bach, ac er ei bod hi’n hoffi ei chydweithwyr nid oedd hi’n teimlo’n gyfforddus yn gofyn am help. Newid oedd angen.

Ymgynghorydd cyflogaeth Levi oedd Steve Squires o partner darpariaeth Engage to Change, ELITE Supported Employment. “Mae Steve wedi bod yn grêt,” meddai Levi. “Mae wedi bod yn help mawr ac wedi gy nghefnogi i ddod yma.” Mae Levi yn gwerthfawrogi bod Steve wedi cymryd mewn i ystyriaeth ei dymuniadau a’i hanghenion hi – doedd pethau ddim yn gweithio yn ei lleoliad gwaith cyntaf, ac mi oedd hi’n bwysig i geisio cael e’n gywir yr ail tro. Trefnodd Steve iddi ymweld â Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin er mwyn cael gweld y lle a cyfarfod pawb. O’r diwrnod cyntaf hynny, roedd hi’n ei garu yno. “Penderfynais mai fan hyn oeddwn i eisiau bod.”

Fel person gyda llawer iawn o empathi, cefnogi’r grwpiau sy’n cael ei rhedeg gan y sefydliad sydd wedi bod yn brif ffocws i Levi. Mae’r rhain yn cynnwys grwp menywod, grwp dynion, grwp cyfnewid sgiliau, grwp coginio, a nifer o grwpiau ymarfer corff. “Mae Levi yn mynd mewn ac yn gwneud yn siwr bod pob aelod yn cymryd rhan a’i bod nhw’n mwynhau ei hunain,” meddai ei cyflogwr Sarah. “Mae ganddi empathi anhygoel gyda’n aelodau ac mae hi’n wych gyda grwpiau, ond hefyd yn nodi yn un-i-un bod pobl bach yn tawedog i gymryd rhan.”

Mae Levi hefyd yn gweithio gyda’r sefydliad Barod, y mae ei brosiect cyfredol yn edrych ar rhwystrau i hunan-gyflogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae ei gwaith arall hi yn cynnwys ateb galwadau ffôn y swyddfa a cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori, fel ymgynghoriad tair diwrnod yn ddiweddar yng Ngheredigion.

Mae’r amgylchedd cefnogol a’r tîm Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin wedi galluogi hyder Levi i ffynnu. Mae ei mam wedi sylwi newid ynddi. “Un o’r pethau yr wyf wedi sylwi am Levi yw ei bod hyn wedi tyfu ei hyder. Os mae hi’n gweld rhywun, ddim yn bwysig pwy ydyw, yn cael ei drin yn wahanol, neu pobl yn chwerthin am ei pen, mae wedi rhoi’r hyder iddi i siarad mas.” Mae Levi yn gyflym i’w ychwanegu ei bod hi wedi adeiladu’r hyder hyn yn y gweithle. Tra mae hi’n ei ffeindio’n anodd i dderbyn canmoliaeth, mae hi’n gwybod ei bod hi wedi helpu’r pobl y mae hi’n gweithio gyda nhw. Ar ddiwrnod ein cyfweliad, mae ei bond gref gyda nhw yn amlwg pan fydd amryw o aelodau’n canmol iddi.

Ni allai ei chyflogwr Sarah canmol hi’n fwy am ei gwaith. “Mae hi’n hyblyg iawn. Bydd hi’n rhoi ei law at unrhywbeth. Beth bynnag mae hi’n gwneud ar gyfer y sefydliad yma mae hi’n gwneud gyda ymrwymiad o 110%.” Am gymaint ag y mae hi wedi dangos ymrwymiad i Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, maen hwn hefyd wedi dangod ymrwymiad iddu hi trwy cynnig cymorth a hyblygrwydd pan mae Levi yn teimlo pryder, neu aflonyddwch clefyd Crohn. “Rwy’n credu gall sefydliadau a cyflogwyr arall ddysgu llawer o Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrdding,” meddai Amanda. “Nid yw’n cymryd llawer i addasu a cael o gorau mas o bobl.”

Carreg filltir enfawr arall i Levi oedd pasio ei prawf gyrru. Blwyddyn ar ôl colli Pearl, penderfynodd hi i fynd amdani. “Doeddwn i byth yn meddwl allai gyrru car yn fy mywyd! Roeddwn i’n credu y buaswn wedi crasio mewn i wal erbyn hyn, ond dwi ddim wedi. Ond rwy wedi bacio’n ôl mewn i rhai o bethau!”

Ers i Engage to Change ei cysylltu hi â Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, mae Levi’n teimlo bod hi wedi ffeindio ei pwrpas. “Rwy’n caru pawb a phopeth am fy swydd,” meddai hi. “Buaswn i’n byw yma, ac os allai gymryd nhw gyd adref gyda fi, buaswn. Maen nhw’n hoff o mi ac ryd i’n hoff ohonyn nhw.. Rwy’n gwerthfawrogi popeth y mae Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin wedi gwneud i mi, maen nhw’n anhygoel.”

Nid yw hyn yn meddwl bod popeth wedi bod yn hawdd neu’n berffaith – mae clefyd Crohn a psoriasis wedi bwrw Levi yn galed yn ddiweddar. Fel sgîl-effaith o gyffur cryf a dderbyniodd Levi i rheoli ei clefyd Crohn, mi gafodd hi psoriasis difrifol ar ei chroen y pen. Achosodd hyn i glwmpiau mawr o’i gwallt i ddisgyn allan. Cyn Nadolig siafiodd hi ei gwallt, penderfyniad mae ei mam yn disgrifio fel “hynod o ddewr, oherwydd bod Levi yn ymwybodol iawn o ddelwedd!” Ond mae ei gwallt hi nawr yn tyfu nôl, ac mae yna llawer o bethau i edrych ymlaen at. Yn gyntaf mae yna cynhadledd ym Mharc y Scarlets yn hwyrach ym mis Mawrth. Y tu hwnt i hynny, mae Levi yn gwybod ble mae hi eisiau bod – yn parhau i help a chefnogi pobl yn Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin. Nid oes amheuaeth y bydd hi’n parhau i ddangos ei ymrwymiad i a cariad o’i swydd.

Mae profiad Levi wedi dangos, gyda chymorth cywir, bod cyflogaeth ystyrlon yngyrraeddadwy ar gyfer pobl fel hi gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth. Mae Levi yn un o lawer sydd gan y gallu i gyflawni ei potensial a cyfrannu’r bositif i’r gweithlu gyda chymorth prosiect fel Engage to Change. Mae ei llwyddiant yn y gwaith er gwaethaf ei anhawsterau yn dyst i wydnwch a chryfder mewnol anhygoel. Mae hi’n agored ynglŷn â’i stori a’r heriau y mae hi wedi gwynebu oherwydd maen nhw’n gwneud hi pwy yw hi. Fel y mae hi’n dweud, wrth dyfynnu o The Greatest Showman, “dyma fi.”