Chwilio yn ol llais

“Rwy’n hoffi bod gydag anifeiliaid,” meddai Lliwen Roberts o Gerrigydrudion, pentref i’r dwyrain o Barc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru. “Gwnes i gwrs Gofal Anifeiliaid Bach yng Ngholeg Llaneurgain.” Erbyn hyn yr hoff ran o’i swydd gyda Derwydd Eggs, fferm ger Llanfihangel Glyn Myfyr, yw bod gyda’r ieir, ond mae hi’n pwysleisio ei bod hi’n hoffi popeth am y swydd mae hi wedi’i dal bellach am ychydig dros flwyddyn.

Mae Lliwen, sydd ag anabledd dysgu, yn gweithio tri bore yr wythnos. Ar yr amser hwn o’r flwyddyn, mae hi’n dechrau trwy godi’r wyau sydd wedi’u dodwy yn ystod y nos o’r gwregys. Wedyn, mae hi’n gwirio’r ieir yn y sied, gan sicrhau bod ganddynt ddigon o ddŵr a bwyd, ac asesu lles unrhyw anifeiliaid a allai fod yn sâl. Pan fydd hynny wedi’i wneud, gallai fod cynifer â 50 o wyau i’w casglu. Mae hi’n gwirio’r peiriant i sicrhau nad oes unrhyw graciau na baw ar yr wyau. Mae hi’n ailadrodd y broses ac yn gorffen o’r diwedd trwy lanhau, gan adael tua hanner dydd.

“Mae hi wedi bod o gymorth mawr,” meddai Llŷr Jones o Derwydd Eggs. “Mae hi’n cyrraedd yn brydlon am 7am bob bore, dal ychydig cyn fi yn y bore, mae hi’n dda iawn gyda hynny!” Mae Lliwen yn cytuno bod rheoli amser a phrydlondeb yn rhai o’r sgiliau y mae hi wedi dysgu eu bod yn bwysig ac wedi’u datblygu yn ystod ei hamser yn y swydd. Mae Llŷr hefyd yn canmol ei pharodrwydd i newid shifftiau gydag eraill a helpu allan os yw’r fferm yn brin o bâr o dwylo.

Mae gan Lliwen wir angerdd dros anifeiliaid a bod o’u cwmpas, felly dyma oedd y swydd ddelfrydol ar ei chyfer. Cred Llŷr mai un o’i chryfderau yw’r ffordd y mae hi’n adnabod pan fydd yr ieir yn sâl ac yn gofalu amdanynt. Roedd Lliwen yn bresennol hefyd yn ystod y tymor ŵyna, gan newid gwelyau a bwydo ŵyn â photel.

 

Gyda chefnogaeth gan ei hanogwr swydd Sioned o bartner y prosiect Engage to Change, Agoriad Cyf, mae Lliwen wedi llwyddo i ddatblygu ei hyder a’i sgiliau cyfathrebu trwy ei gwaith. Mae hi a’i chyflogwr yn cytuno ei bod wedi dod ymlaen yn wych yn hyn o beth. “Mae Lliwen wedi mynd yn fwy hyderus. Mae hi’n gwybod beth sydd angen ei wneud, rydym bob amser yn rhoi ychydig yn fwy o gyfrifoldeb iddi. Rwy’n falch ein bod wedi cymryd y cam hwn a chyflogi Lliwen.”

Roedd y gefnogaeth gan Sioned yn ddwys ar y dechrau, ac yn y lle cyntaf helpodd hi Lliwen i ddysgu sut i gwblhau ei thasgau bob dydd. “Roedd yn hynod dda,” meddai Llŷr am y gefnogaeth. “Byddai Sioned yn cyrraedd am 7am bob bore a byddai gyda hi bob dydd am fisoedd.” Ond mae hyder a galluoedd Lliwen bellach wedi cyrraedd lefel sy’n golygu y bu’n bosib i Sioned dapro ei chefnogaeth ac mae hi bellach yn gwirio gyda’r cyflogwr a chyflogai dros y ffôn neu drwy ymweliad achlysurol.

Mae Llŷr yn credu bod y prosiect Engage to Change wedi galluogi fe i gyflogi rhywun sydd ag anabledd. “Yn ddi-os. Ar y dechrau roeddwn yn amheus, gan nad oeddwn yn siŵr faint o gyfrifoldeb y gallwn ei roi i Lliwen. Ond roedd Sioned yno i helpu a dangos y ffordd i ni, ac mae wedi troi allan i fod yn syniad gwych.” Mae’n gobeithio ehangu’r fferm i ddwy sied, gan fedru estyn oriau Lliwen yn y broses.

Ynghyd â’i hyder cynyddol, mae Lliwen hefyd yn dweud ei bod hi’n hapusach o’i gymharu â sut roedd hi’n arfer bod. “Rwy’n hapusach bod gennyf swydd yn awr ac y gallaf fod yn annibynnol.” Mae hi’n chwerthin, “Hoffwn i aros yma gyda’r ieir!”

Mae’r stori hwn wedi cael ei gynnwys ar Blog Mawr y Gronfa Loteri Fawr.