Chwilio yn ol llais

“Dwi wir yn mwynhau,” meddai Joe, 19 mlwydd oed, o’i lleoliad gwaith yn y Co-op yn Barmouth. Pob dydd Gwener mae Joe yn cerdded sawl munud lawr yr heol am ddechreuad o 8yb yn y siop leol, ble mae wedi bod yn gweithio am dwy fis nawr gyda chymorth o Agoriad Cyf trwy Engage to Change.

 

Pan y bu’n cyrraedd, roedd Joe yn cyfarwyddo cwsmeriaid i’r eitemau roeddent yn chwilio am. Nawr, gyda help o’i hyfforddwr swydd Zoe, mae e wedi bod yn dysgu tasgau arall yn cynnwys cylchdroi stoc a’r broses ailgylchu. Pan yn stacio, mae Joe wedi bod yn gweithio gyda llaeth a caws yn arbennig. “Rwy’n gwybod sut i stacio silff mewn llai na 15 eiliad!” Ond ailgylchu’r cardfwrdd sydd wedi dod yn ei hoff rhan o’r swydd. “Rydw i’n torri lan y bocsys ac yn rhoi nhw mewn cawell ar bwys y drysau dwbl yn y cefn ac yna maen nhw’n cael ei ailgylchu,” mae e’n dweud.

Yn ei amser sbar mae Joe yn caru chwarae Minecraft ac yn chwerthin, “ Os allwch chi ei feddwl, gallwch chi ei hadeiladu!” Mae e’n glir ei fod yn cario’r athroniaeth yma hefo fo, gan mae o’n helpu ffrind y teulu i deilio ei ystafell ymolchi ar hyn o bryd, yn ogystal a rhoi lan ffens yn ei gardd ei hun gyda’i brawd Jordan. Mae e hefyd yn mwynhau edrych ar old au gi’r teulu, bulldog Ffrengig a bullstaff o’r enw Blue a Luna.

Mae chwaer Joe, Lois, yn mynegi faint mae’r cyfle i Joe mynd i’r gwaith yn meddwl iddo fe ac i’r teulu. “Doedd Joe ddim eisiau gadael y coleg, oherwydd roedd e’n caru mynd yna i gyfathrebu gyda’i ffrindiau, ei ennibyniaeth i fynd ar y bws,” mae hi’n dweud. “Roedd mynd i’r lleoliadau gwaith yma fel coleg mewn ffordd, felly mae e yn mwynhau mentro allan o’r tŷ a bod yn annibynol.” Roedd Joe yn mynychu cwrs cyn-alwedigaethol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, yn ogystal a cwblhau ei Wobr Efydd Dug Caeredin y mae’n falch iawn o. Ymunodd â’r prosiect Engage to Change yn Hydref 2016, yn cwblhau lleoliadau gwaith byr yng nghaffis Y Sosban a TH Roberts yn Dolgellau, cyn sicrhau’r lleoliad gwaith yn y Co-op.

Mae Joe yn amcangyfrif ei fod wedi cwrdd â ugain ffrind newydd trwy gweithio yn y Co-op a bob amser yn gwneud yn siwr ei fod yn cyrraedd y gwaith ar amser. Mae Lois yn ychwanegu, “Yn amlwg mae’n fwy o drefn nawr oherwydd mae e bob dydd Gwener. Mae e’n ymwybodol o’r amserau mae angen iddo fod yno a’i amserlen, rheoli amser a phethau, felly mae e wedi datblygu hynny.”

Mae Lois wedi sylwi gwahaniaethau arall i Joe hefyd. “Mae e wedi dod yn fwy cwrtais oherwydd mae’n delio gyda cwsmeriaid!” Mae hi’n credu bod y cymorth o Agoriad wedi helpu Joe i adnabod ei wendidau, ac er ei fod yn gallu gwneud llawer o bethau ar ei ben ei hun mae’n gwybod bod y cymorth yna os mae ar angen arno. “Yn enwedig o gwmpas y gwinoedd!” mae Joe yn honi. Yn y ffordd yma, mae hi’n meddwl bod y prosiect yn cyrraedd anghenion Joe a bod yr annibyniaeth y mae’n ennill trwyddo yn werthfawr, ac yn hawl y mae’n mwynhau ymarfer.

Yn edrych ymlaen, mae Joe yn obeithiol fydd pethau yn setlo i lawr yn y Co-op yn dilyn ailwampio diweddar fel ei bod yn gallu sefydlu trefn, sydd yn helpu. “Roedd ddoe yn brysur! Aeth y ciw o gwmpas pedwar eil!” Mae Joe hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gyfle potensial am fwy o waith yn Dwr Cerist gerllaw.