Laura yn Edrych Nôl
Enw: Laura Plenty
Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Project SEARCH?
Mae hi wedi bod yn dda iawn, rydw i wedi dysgu llawer trwy’r holl gwrs.
Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Project SEARCH?
Fy interniaeth cyntaf gweithiais gyda’r Ganolfan Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH).
Fy ail interniaeth gweithiais yn yr adran Rhaglenni Saesneg Iaith.
Fy trydydd interniaeth gweithiais i gyda gwasanaethau myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd yn Ysbyty yr Heath.
Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?
Fy hoff interniaeth oedd y trydydd un oherwydd ges i weithio mewn dau lle, yn Ysbyty yr Heath ac mewn gwasanaethau myfyrwyr yn Park Place.
Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.
Gwnes i tasgau fel creu ffolderi, dysgais tipyn am sut i ffeindio’s ffolder cywir i dynnu allan, mewnbynnu data ar taenlen Excel, ffeindio pamffledi i gael ei anfon allan i lefydd gwahanol. Creu pecynnau am brofion gwaed a creu ffolderi myfyrwr. Mewnbynnu ystadegau’r adran mewn i daenlen Excel.
Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?
Rydw i wedi dysgu sut i wneud CV gan nad ydw i wedi gwneud e o’r blaen.
Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?
Ges i llawer o gymorth oddi wrth Lily, Kerri a Bev trwy’r holl flwyddyn.
Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?
Rydw i wedi bod yn ymgeisio am cynorthwy-ydd gweinyddol mewn amgylchedd swyddfa a dydw i ddim wedi bod yn llwyddiannus eto.
Nawr bod Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?
Hoffwn weithio mewn amgylchedd swyddfa gyda tîm neis o bobl.