Chwilio yn ol llais

“Dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud hebddynt,” meddai Aron o Engage to Change a partneriaid darpariaeth Agoriad Cyf, sy’n cefnogi Aron yn ei swydd yn gweithio ar gyfer Anglesey Contract Cleaning (ACC). “Byddai’n frwydr i mi gael swydd hebddynt.” Mae Aron wir yn mwynhau ei swydd, y mae wedi ei gynnal ers ei gyfnod prawf llwyddiannus Chwefror diwethaf a’i dechreuad swyddogol ym Mawrth. Mae ei waith yn cynnwys glanhau swyddfeydd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) ym Mhorthmadog pum diwrnod yr wythnos, a nawr awr ychwanegol yn ei swyddfeydd ym Mhenrhyndeudraeth.

Mae Engage to Change ac Agoriad wedi cefnogi Aron pob cam o’r ffordd ar ei daith tuag at cyflogaeth. Pan wnaeth Aron ddechrau ei swydd yn CCG, fe wnaeth Agoriad ei cefnogi o ddydd i ddydd am yr wythnosau cyntaf i’w helpu i setlo mewn i arfer a cwblhau ei tasgau dyddiol i fodlonrwydd y cyflogwr a’r cleient. Mae Agoriad hefyd wedi ei cefnogi i ddatblygu ei sgiliau cadw amser i sicrhau ei fod yn dechrau’r gwaith ar amser.

“Dim ond adborth positif sydd gennyf gan y cleient, CCG, ynglŷn â gwaith Aron,” meddai ei cyflogwr Andrew. Mae’n ychwanegu bod cymorth o’r prosiect Engage to Change “wedi ei wneud llawer yn haws i gymryd Aron ymlaen” gan ni fyddai wedi gallu cynnig y cymorth cychwynnol iddo heb y prosiect, oherwydd lleoliad ACC. Mae gwaith Aron yn parhau i fod o safon uchel ac mae e nawr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb, yn monitro ei stoc glanhau ei hun ac yn archebu mwy pan fo angen. Mae Aron yn jocio y byddai’n caru gweithio yn ACC “nes fy mod yn hen ac yn cael trafferth!” Mae’r rôl yn ei galluogi i adeiladu ei hyder, gyda Aron yn teimlo ei fod wedi cael y cyfle i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu o’r diwrnod cyntaf.

“Roedd Aron yn dawel iawn pan ddechreuodd a nawr mae e wedi dod i adnabod pawb mae wedi dod allan o’i gragen llawer mwy,” meddai Andrew, gyda gweithwyr y swyddfa CCG wir yn ei werthfawrogi fel rhan o’r tîm, neu’r “gang” fel mae Andrew yn ei alw. Nid yw trafnidiaeth wedi bod yn broblem i Aron chwaith yn dilyn ei hyfforddiant teithio. Mae’n cymryd bysiau i’r swydd wythnosol yn Mhenrhyndeudraeth, ond mae’r swyddfeydd ym Mhorthmadog yn digon agos iddo gerdded.

Cyn iddo ddechrau gweithio ar gyfer Anglesey Contract Cleaners mynychodd Aron y coleg a gwirfoddolodd am ei siop Oxfam leol yn ei amser rhydd. Nawr mae’n gwirfoddoli yn ei siop Croes Coch Prydain lleol.

Ochr yn ochr â gwirfoddoli, mae Aron yn mwynhau beicio fel hobi; “Rwy’n gallu mynd am filltiroedd!” Mae e hefyd yn mwynhau cerdded ei gi yn y mynyddoedd sy’n amgylchynu Porthmadog ac yn ymestyn trwy Eryri tuag at Blaenau Ffestiniog, yn ogystal â archwilio’r dref glan môr gerllaw Criccieth ac ymweld â’r sinema.

“O fy sabwynt i, mae hi wedi bod yn brofiad positif i gymryd Aron ymlaen,” meddai Andrew. Diolch i’r cymorth sydd wedi bod ar gael o Engage to Change iddo ef fel cyflogwr ac i Aron fel cyflogai, mae ar agor i gyflogi eraill gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn y dyfodol. Meddai Aron ei hun y byddai’n argymell unrhywun yn ei sefyllfa i fynd at Engage to Change – “Maen nhw wedi bod yn help fawr.”