Chwilio yn ol llais

Mae Grace Smith yn gyn-intern Engage to Change DFN Project SEARCH o’n safle ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn dilyn ei interniaeth olaf o’r rhaglen yn y Ganolfan Addysg Meddygol yn Ysbyty Prifysgol Cymru ym Mharc Heath, fe ddaeth swydd ar gael fel cynorthwyydd technegol. Ymgeisiodd Grace am y swydd yn lwyddiannus ac mae hi nawr wedi setlo mewn i’w cyflogaeth.

“Rydw i’n gweithio ym Mharc Heath yn Adeilad Cochrane Prifysgol Caerdydd. Rwy’n gweithio dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener ac rydw i’n cael diwrnod rhydd ar dydd Mercher. Fy oriau yw 9:30yb tan 3yp, 21 awr yr wythnos. Rwy’n tacluso’r gorsafau SDL, ailstocio’r cypyrddau SDL, ailstocio’r cwpwrdd cyffuriau, ac ailstocio’r cypyrddau nwyddau traul. Rwyf hefyd yn gosod y troliau, gosod y troliau gofal clwyf, ymchwilio amser, ffeindio mas pa cyffuriau sydd angen ei ail-lenwi’r wythnos yma, rhedeg y tapiau dwr ar lefel 3 a 4, ac ailstocio’r tywelion papur ar lefel 3 a lefel 4. Rwy’n mwynhau gweithio ac mae’n helpu fi gyda fy nghyfathrebu a gwneud cyswllt llygaid. Mae’r staff i fyny yno yn gyfeillgar ac yn fendithiol iawn. Enw fy rheolwr yr Scott.

Wnes i ddysgu sgiliau fel gwneud ffrindiau, cyfathrebu, gwneud cyswllt llygaid, ac fe wnes i ddysgu sut i weithio ar ben fy hunain heb fy hyfforddwr swydd Rachel Holley. Gwnaeth fy hyfforddwr swydd fy helpu tra roeddwn i’n dechrau fy swydd newydd. Roeddwn i ar Project SEARCH blwyddyn diwethaf ac fe wnaeth o helpu fi i gael y swydd yma. Os nad oeddwn i ar Project SEARCH ni fyddwn i ble’r ydw i nawr. Ar fy interniaeth olaf doeddwn i ddim yn meddwl byddaf yn cofio’r holl dasgau, ond pan wnes i ddechrau’r swydd wnes i bigo bethau i fyny’n gloi.

Yn fy amser hamdden rydw i’n gwneud karate ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sadwrn. Rydw i’n ail Dan yn karate a fy llysenw yno yw Smithy. Rwy’n byw gyda fy mam a fy chwaer Jade. Mae gen i gi o’r enw Roxy a cath o’r enw Sasha. Mae gen i gariad ac rydw i’n hoffi gwario amser fyda fo. Ar benwythnosau rwy’n hoffi gwario amser gyda fy ffrind Laura [hefyd yn gyn-intern DFN Project SEARCH].”