Chwilio yn ol llais

Cyfarfodwch â Gavin, dyn ifanc a ddechreuodd ei lleoliad gwaith cyflogedig yn Hydref 2016 fel rhan o’r prosiect Engage to Change. Mae Gavin wedi bod yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn swyddfeydd y darparwr gofal GRS yn Abertawe am 15 awr yr wythnos.

Dechreuodd Gavin ei daith Engage to Change ym Medi 2016, pan y cyfarfododd â Gillian Rees ac Andrew Hedge o ELITE Supported Employment i gyflenwi’r broses atgyfeirio a phroffilio galwedigaethol. Roedd Gillian yn hyderus y byddent yn gallu ffeindion cyflogaeth am Gavin, pwy mae’n disgrifio fel “dyn ifanc cwrtais gyda moesau dau”. Roedd Gavin wedi bod yn edrych am gyflogaeth, yn ennill sgiliau a phrofiad trwy gwirfoddoli’n wythnosol ar orsaf radio yr ysbyty lleol ac mewn swyddfa. Mae gan Gavin gymorth ei fam, ac roedd y ddau’n gyffrous i ddarganfod mwy am y prosiect Engage to Change a sut y gallai ei helpu i ffeindio cyflogaeth.

Mae GRS Care Ltd. yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau niferus ar draws De Cymru gan anelu at sicrhau mwy o ddewis yn cynnal annibyniaeth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu trwy cynlluniau cymorth unigol dan arweiniad clinigol. Fel rhan o’i rôl yn GRS, mae Gavin wedi bod yn annatod i helpu swyddfa newydd y cwmni yn Stad Ddiwydiannol Llansamlet cael gwared o bapur. Mae ei ddyletswyddau a chyfrifoldebau yn cynnwys sganio’r gwaith papur, ateb yr intercom i adael ymwelwyr mewn i’r adeilad, cydosod ffeiliau newydd Iechyd a Diogelwch i gael ei anfon i gartrefi GRS, a trefnu ac ailgyflenwi’r hambyrddau post a llungopïo. Mae cyflogwr Gavin, Lucy, yn dweud “Mae Gavin yn gwneud yn dda iawn, wedi setlo ac yn rhan o’r tîm”. Mae desg wedi cael ei ddyrannu ar gyfer Gavin yn y swyddfa ac mae ei adolygiad yn llawn o ganmoliaeth. Mae ei rheolwr yn rhannu ei fod “wedi dod yn rhan annatod o’r swyddfa, mae wedi integreiddio mewn i’r swyddfa yn dda ac yn cael perthnasau gweithio da gydag aelodau o staff arall”.

Dywed Gavin ei hun, “Rydw i’n mwynhau ac rydw i’n brysur, yn sganio a sortio’r gwaith papur”. Mae hyfforddwr swydd Gavin, Gillian, yn adleisio geiriau ei rheolwr ac yn pwysleisio faint y gwerthfawrogir gan y staff arall yn y swyddfa am ei waith. Yn ystod ei lleoliad gwaith cyflogedig, mae Gavin wedi parhau gyda’i waith gwirfoddol yn orsaf radio’r ysbyty. Mae e hefyd wedi cwblhau ei lyfr lleoliad gwaith ac yn gweithio tuag at ennill cymhwyster Agored Cymru.