Chwilio yn ol llais

Ar ôl gorffen ysgol, symudodd Jordan gyda’i deulu o Essex i Gasnewydd i fod yn agosach at teulu estynedig. Roedd Casnewydd yn hollol newydd iddo – nid oedd e’n adnabod unrhywun yn yr ardal, ac nid oedd e’n adnabod y system trafinidiaeth cyhoeddus na’r mwynderau lleol. Ar ôl byw yng Nghasnewydd am tua blwyddyn, penderfynodd Jordan ei fod eisiau ffeindio gwaith. Mae Engage to Change wedi rhoi cymorth i Jordan ers hynny, ac yn Ionawr 2017 dechreuodd Jordan weithio mewn canolfan cymunedol yng Nghasnewydd o’r enw’r Share Centre.

Mae Jordan yn gweithio am wyth awr dros dau ddiwrnod yr wythnos, a’i prif tasgau yw i agor lan y ganolfan yn y bore a paratoi lluniaeth ar gyfer myfyrwyr ac ymwelwyr i’r ganolfan. Mae ganddo hefyd amrywiaeth o dasgau gweinyddol, yn cynnwys diweddaru’r dyddiadur gydag unrhyw archebion ystafell, a delio gydag anfonebu.

Ar ddechrau’r lleoliad gwaith, wnes i rhoi cymorth i Jordan i gwblhau tasgau yn y gwaith. Roedd angen arno cymorth i gofio ym mha drefn i wneud tasgau, ac i gofio rhai manylion o’r tasgau. Roedd angen arno llawer o gymorth i rhyngweithio gydag aelodau arall o’r staff yn y gweithle, gan ei fod i ddechrau yn swil iawn. Wedi sawl wythnos o hyfforddiant swydd, cafodd tasgau newydd fel anfonebu a ffeilio ei ychwanegu, ac roedd hyn yn creu’r angen am hyfforddiant swydd estynedig.

Dywed Jordan mai ei hoff rhan o’r swydd yw’r anfonebu oherwydd mae hi’n rhywbeth mae’n teimlo for ganddo perchnogaeth o, yn ogystal â bod yn sgil trosglwyddiadwy sydd o fudd mawr i’r Share Centre. Gan fod aelodau arall o deulu Jordan yn gwneud swyddi sy’n cynnwys anfonebu, mae e’n teimlo bod hyn yn rhoi iddo rhywbeth i wneud a’r gwaith mewn cyffredin â nhw. Mae Jordan yn teimlo bod y lleoliad gwaith yma wedi dysgu iddo i gael hyder yn ei gallu ei hun, i gyfathrebu gyda amrywiaeth o bobl yn gyfforddus, ac i ddefnyddio SAGE a delio gyda’r broses anfonebu.

Mae Jordan yn dod ymlaen yn dda iawn gyda staff y Share Centre, Andrew a Cath, a gyda ymddiriedolwyr y sefydliad pan mae e’n gweld nhw. I ddechrau, roedd Jordan yn swil iawn ac nid oedd e’n mwynhau rhyngweithio gydag ymwelwyr i’r ganolfan. Ar ôl gweithio yno am sawl mis, mae e nawr yn dweud ei fod yn teimlo llawer yn fwy hyderus ac yn gallu rhyngweithio’n dda gyda’r ymwelwyr i’r ganolfan. Mae’n gallu ateb y rhan fwyaf o gwestiynau sy’n cael ei ofyn ohono, ac mae’n gyfforddus i ofyn am gymorth pan mae angen arno. Mae Cath wedi dweud eu bod hi’n gweld Jordan fel rhan o’r tim, a bod y cynnydd yn ei hyder yn glir.

Cerddoriaeth roc yw hoff gerddoriaeth Jordan, ac mae’n ymweld â dinasoedd o gwmpas y DU i weld ei hoff fandiau. Tra roeddwn i’n rhoi cymorth iddo yn y Share Centre, archebodd wyliau (trwy’r weithdrefn cywir) i ymweld â Llundain i weld Black Sabbath. Mae Jordan hefyd yn cymryd rhan mewn grwp drama un noswaith yr wythnos.

Mae teulu Jordan wrth ei boddau gyda’r cynnydd mae wedi gwneud. Maen nhw wedi nodi bod Jordan yn fwy hyderus ynddo’i hun, ac mewn tasgau dydd-i-ddydd fel mynd siopa a dal y bws. Maen nhw wedi sylwi er na fyddai erioed wedi cychwyn sgwrs o’r blaen, nawr mae’n mynd at eraill a dechrau sgyrsiau o’i gydsyniad ei hun. Ers dechrau ei waith gyda’r prosiect Engage to Change, mae Jordan hefyd wedi stopio arddangos arwyddion o iselder ysbryd. Mae ei lefelau straen hefyd wedi lleihau’n fawr, os nad diflannu.

Hoffai Jordan parhau i ddatblygu ei sgiliau a hyder. Yn ddiweddar mae wedi dechrau gyrru eto, sy’n dangos pa more hyderus mae e wedi dod nid dim ond gyda rhyngweithio cymdeithasol, ond gyda llywio’r ardal ble mae’n byw. Yn fuan fe fydd Jordan yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad gyda’i grwp drama, sydd wedi rhoi iddo rôl o gyfrifoldeb. Mewn amser, hoffai Jordan edrych am waith llawn amser.

Stori gan ein partneriaid yn ELITE Supported Employment.