Chwilio yn ol llais

Cyn ei atgyfeiriad i’r prosiect Engage to Change, mynychodd Hannah Coleg Glasshouse yn Stourbridge yng Nghorllewin Canolbarth Lloegr. Mae’r coleg yn cynnwys amrywiaeth o weithdai crefft, mentrau cymdeithasol, a canolfan perfformio’r celfyddydau ar gyfer pobl gydag amrywiaeth eang o anhawsterau dysgu. Yn ystod ei amser yn y coleg feithrinodd hi ei gariad am gelf a chrefft ac unwaith i’r cwrs preswyl orffen, penderfynodd Hannah bod hyn yn maes gwaith y byddai hi’n hoffi adeiladu arni.

Ar ôl cwrdd Hannah, siaradon ni am gyfleoedd gwaith posib ond roedd hi’n eithaf clir y byddai unrhyw beth sy’n ymwneud â chelf a chrefft yn ddelfrydol! Wedi sawl wythnos o chwilio am lleoliad gwaith, cafwyd treial gwaith ei sefydlu i Hannah ddim yn bell o’i cartref hi, yn yr Oriel Ardent yn Aberhonddu. Mynychodd Hannah sesiwn cwrdd a chyfarch ac mi oedd hi’n dod ymlaen yn dda iawn gyda’r perchnogion Ian a Claire. Fel canlyniad o hyn, fe drefnwyd treial gwaith i Hannah i weithio yn y siop pob prynhawn dydd Llun.

Yn ystod ei treial roedd Hannah bach yn swil, ond ar ôl gweithio gyda perchnogion yr oriel Claire ac Ian a cynorthwy-ydd y siop Gemma, dechreuodd hi dyfu’n fwy hyderus ac i ymgysylltu mwy gyda’r cwsmeriaid oedd yn dod mewn i’r siop. Yn ystod y treial cynorthwyodd Hannah gyda rhai dyletswyddau fframio sylfaenol ac aildrefnu’r celf ar y wal. Ar ddiwedd y treial gwaith roedd Claire ac Ian yn gallu cynnig swydd rhan amser i Hannah lle y byddai’n parhau i weithio bob prynhawn dydd Mawrth.

Mae Hannah wedi bod yn gweithio yn yr oriel nawr am bump mis, ac ers hynny mae hi wedi dod llawer yn fwy annibynnol ac yn teimlo fel rhan o’r tîm. Mae cwsmeriaid rheolaidd i’r oriel nawr yn cymryd yr amser i siarad i Hannah ac mae hyn wedi gwneud hi’n fwy cyfforddus i ymgysylltu â phobl. Mae hi hefyd wedi dysgu sut i gwblhau llawer mwy o dasgau, yn cynnwys sut i ddefnyddio’r peiriant coffi, ac yn cymryd rhan mewn cymryd stoc o’r deunyddiau a werthwyd yn yr oriel yn rheolaidd.

Dywedodd Hannah mai un o’i hoff rhannau o’r swydd yw siarad i gwsmeriaid am y gwahanol paentiadau sydd ganddynt i’w harddangos, a pwy yw ei hoff arlunwyr. Mae hi hefyd yn hoffi aildrefnu’r holl lyfrau newydd sy’n dod mewn i’r oriel. Mae cynorthwy-ydd y siop, Gemma, wedi gweithio’n agos gyda Hannah dros y sawl mis diwethaf ac wedi gweld gwelliant enfawr yn ei hyder hi.

“Mae Hannah yn bendant wedi tyfu mewn hyder yn yr amser byr y mae hi wedi bod yma. Rwy wedi sylwi sut mae hi’n teimlo mwy cyfforddus yn siarad i gwsmeriaid gan wybod ei bod nhw hefyd yn cael diddordeb brwd mewn celf. Mae hi hefyd yn fodlon dysgu tasgau newydd ac yn awyddus i adeiladu ar ei sylfaen wybodaeth o waith celf.”

Stori gan ein partneriaid ELITE.