Chwilio yn ol llais

Mae Leigh Quinlan wedi ymuno yn ddiweddar â’r tîm Ailgylchu Pren Cymunedol Reseiclo trwy ei gyfranogiad yn Engage to Change gyda Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth ELITE Supported Employment.

Mae Jeannette Rich, Rheolwr AD a cyfarwyddwr Reseiclo, wedi bod wrth ei bodd gyda cynnydd Leigh. “Pan gyntaf gyrhaeddodd Leigh, roedd hi’n dawel a swil ond yn y sawl wythnos diwethaf mae hi wedi ymlacio ac yn siarad i bawb o’i cwmpas hi,” meddai Jeanette. “Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn cyrraedd bach ar ôl 9yb er nad yw hi’n dechrau tan 10yb.”

“Mae Leigh dim ond wedi bod gyda Reseiclo am rhai o wythnosau, yn dod dwy waith yr wythnos gyda hyfforddwr swydd o ELITE am bedwar awr y diwrnod, fodd bynnag mae hi wedi setlo mewn yn dda iawn. Mae hi’n barod wedi gofyn os elli hi ymestyn ei oriau i dwy ddiwrnod yr wythnos ac os elli hi ddod heb hyfforddwr swydd. Mae hi wedi setlo mewn yn hynod o dda mewn cyfnod mor fyr o amser, mae hi’n cymysgu’n dda gyda aelodau arall o fy nhîm, ac yn fodlon gwneud unrhywbeth gofynwyd ohoni. Rydw i wedi sylwi newid mawr ynddi hi ers diwrnod un. Mae hi’n dod yn fwy a mwy hyderus wrth i’r dyddiau a’r wythnosau mynd heibio, dyw hi ddim mor nerfus a ddim ag ofn o ofyn cwestiynau.”

“Rydw i’n teimlo bod Reseiclo ac ELITE wedi helpu Leigh nid yn unig yn ei bywyd gwaith, ond hefyd yn ei fywyd dyddiol, ac yn teimlo bod hi dim ond yn gallu tyfu’n gryfach fel person yr hirach y mae hi’n aros gyda Reseiclo.”

Stori gan ein partneriaid yn Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth ELITE Supported Employment.