Chwilio yn ol llais

“Rydw i’n delio â chyllid, rwy’n gwneud nodiadau o beth mae pobl wedi gwario a sut, ac yn gwneud nodau o sieciau.” Mae’n swnio fel bod Sam Ingram o Benarth yn mwynhau ei lleoliad gwaith â thâl yng Nghartrefi Cymru – mae’n rhoi’r cyfle iddo i ddefnyddio a datblygu rhai o’r sgiliau mae wedi dysgu o’i profiadau amrywiol yn y coleg, y brifysgol ac mewn rolau gwirfoddol.

Ers Tachwedd, mae Sam wedi bod yn gweithio yn swyddfeydd Cartrefi Cymru yng Nghaerdydd am gwpl o ddiwrnodau yr wythnos. Yn dilyn ei hyfforddiant teithio gyda Tracey o ELITE Supported Employment, mae’n gallu disgrifio lawr i’r manylion mwyaf manwl sut mae’n cyrraedd y gwaith ar gyfer pob sift, ond nid yw hyn yn syndod – roedd Sam arfer yn teithio’n rheolaidd i Swindon ac yn ô li fynd i’r coleg.

Mae ei waith yng Nghartrefi Cymru wedi ei alluogi i gwrdd â pobl newydd ac i ehangu ei gylchoedd, yn ogystal â datblygu ei sgiliau cyfathrebu a’i profiad o rolau yng nghyllid tra’n defnyddio systemau rheoli ariannol arbenigol fel SunSystems a CRIS. Mae ei hyfforddwr swydd Brandon wedi rhoi cymorth iddo i ddysgu tasgau newydd, one mae Sam yn defnyddio ei strategaethau ei hun, fel siartiau a rhestrau, i’w helpu i gofio beth sydd angen ei wneud. Tra fe fydd e’n hapus i aros yng Nghartrefi Cymru yn fwy hir-dymor ac i fynd mewn i’r swyddfa yn fwy aml, mae’n teimlo bod y strategaethau yma a’r sgiliau y mae’n datblygu yn y gweithlu yn mynd i’w helpu i weithio tuag at ddod yn amgylcheddolydd.

Mae Sam hefyd wedi cael y cyfle i ddatblygu ei sgiliau yn gwirfoddoli yn siop Marie Curie yng nghanol Penarth am y sawl blwyddyn diwethaf, ble mae’n mwynhau gweithio’r til ac yn rhyngweithio â cwsmeriaid. Mae hefyd wedi gwirfoddoli yn Ysgol y Deri, ble’r oedd yn ddisgybl blaenorol. Roedd Sam yn falch i gael ei anrhydeddu mewn seremoni wobrwyo yn Llundain Rhagfyr diwethaf am ei waith gwirfoddoli eang.

Yn ei amser hamdden mae Sam yn angerddol am rhedeg ei sianel YouTube, ble mae wedi llwytho bron 200 fideo. Mae hefyd wedi dewis i gymryd rôl fel gofalwr i’w nain 93 mlwydd oed, sy’n byw mewn anecs o dŷ’r teulu. Mae’n rhoi cymorth iddi trwy coginio, glanhau, a gwneud swyddi bach.

O’r prosiect Engage to Change, meddai tad Sam, Keith, “Rwy’n hoffi’r ffaith ei fod wedi’i ffocysu ar, yn lle ‘fe fyddwn ni’n creu swydd i chi wneud’, ond ar posibilrwydd realistig o gael swydd ar y diwedd ohono, yn lle dim ond swydd am chwe mis.” Fe fydd e’n hoffi gweld cysylltiad Sam â’r prosiect troi mewn i rôl hirach-dymor sy’n ei alluogi i fod yn annibynnol. Fe fydd Sam ei hunain yn hoffi hyn hefyd. “Ar y dechrau dwi ddim yn gallu fod yn annibynnol ond byddaf yn dysgu i fod yn annibynnol. Dyna oedd yr achos yn y coleg.”