Chwilio yn ol llais

Ymunodd Michael â’r prosiect Engage to Change ym mis Medi 2016 ac yn dilyn treial gwaith llwyddiannus wedi ennill cyflogaeth gyda MENCAP Cymru yng Nghaerdydd.

“Cysylltodd MENCAP â ni ym mis Awst i weld os allwn ni gynorthwyo dyn ifanc o’r enw Michael oedd wedi bod yn gwirfoddoli efo nhw am dros flwyddyn,” esbonir Sara Johnston, Cydlynydd Hyfforddiant Cyflogaeth ELITE. “Mi oedd Michael wedi bod yn cynorthwyo’r staff gyda dyletswyddau gweinyddol a diolch i’w ymrwymiad a’u gymorth parhaus, roeddent yn gallu cynnig i Michael y siawns o gyflogaeth taledig.”

Hyfforddwr swydd un-i-un Michael yw Vicky Alexander, sydd wedi eu gefnogi trwy’r rhaglen Engage to Change trwy ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda hyfforddiant tasg-benodol. Mae Sara yn disgrifio Michael fel unigolyn dymunol a cwrtais sydd wedi ymgartrefu’n dda yn eu rôl. Gyda’r cymorth priodol mae Michael yn dod yn fwy a mwy annibynnol wrth gwblhau y tasgau a bennwyd iddo.

“Mae hyder Michael yn parhau i dyfu,” ategir Kieran McCargo o MENCAP Cymru. “Roedd e’n falch iawn pan gafodd y swydd. Eu swydd cyflogedig cyntaf! Mae’n gweithio 16 awr yr wythnos.”