Chwilio yn ol llais

“Dwi wrth fy modd gyda fy swydd, mae wedi fy helpu i weld pa mor bwysig yw rôl y GIG a bod y gwaith rwy’n ei wneud yn cael ei werthfawrogi gan eraill hefyd. Rwy’n hapus i fod yn gweithio mewn swydd rydw i’n ei charu ac rwy’n mwynhau’r amrywiaeth mae fy swydd yn ei roi i mi.”

Ar hyn o bryd mae Ryan Gallagher yn gweithio fel porthor banc yn Ysbyty Gwynedd yn ystod y pandemig. Roedd Ryan yn rhan o’r rhaglen interniaethau â chymorth DFN Prosiect SEARCH Engage to Change wedi’i lleoli yn Ysbyty Gwynedd yng Ngogledd Cymru. Drwy’r rhaglen cafodd brofiad mewn rolau amrywiol yn yr Adran Cyfleusterau gan gynnwys mynd â chleifion i apwyntiadau radioleg a chludo gwaed.

Cyn ymuno â’r prosiect bu Ryan yn astudio gofal anifeiliaid a chwrs cyn-alwedigaethol yn y coleg. Er bod Ryan yn awyddus i ddod o hyd i waith ar ôl iddo orffen ei astudiaethau, roedd yn ansicr pa fath o waith yr oedd am ei wneud. Roedd yn cael cymorth i ddod o hyd i waith gan elusen leol a wnaeth ei gyfeirio at raglen DFN Prosiect SEARCH Engage to Change. Ymunodd Ryan â’r rhaglen yn eithaf hwyr yn ystod yr haf ond pan gyfarfu â’r tîm dywedodd “Roeddwn i’n teimlo’n gartrefol yn syth gan fod fy nhiwtor yn hen diwtor i mi o’r coleg.”

Ynghyd â’r interniaid eraill, cyflawnodd Ryan y rhaglen hyfforddi orfodol yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl ymuno â DFN Prosiect SEARCH. Eglurodd:
“Roedd yn eithaf dwys. Fe ges i ddysgu gwahanol bethau fel codi a chario, atal heintiau, llywodraethu gwybodaeth, delio â thrais ac ymddygiad ymosodol a phethau eraill. Pan wnaethon ni ddarganfod pa interniaethau roedden ni’n mynd i’w gwneud ar gyfer y cylchdro cyntaf roeddwn i’n eithaf nerfus ond roeddwn i’n ddigon lwcus i gael cyfnod cylchdro yn un o’r ardaloedd roeddwn i wedi gobeithio amdanyn nhw.”

Yn yr adran radioleg gyda’r tîm porthora yr oedd cylchdro cyntaf Ryan, yn cludo cleifion o wardiau i apwyntiadau ysbyty gwahanol fel pelydrau-x neu sganiau MRI. “Rwy’n berson eithaf swil ac yn ei chael hi’n eithaf brawychus i ddechrau. Roedd wynebu cleifion a phobl doeddwn i ddim yn eu hadnabod yn frawychus, heb sôn am geisio dod o hyd i fy ffordd o gwmpas yr ysbyty! Roedd y tîm radioleg yn gefnogol iawn a byddwn yn mynd i swyddi gydag un o’r aelodau staff eraill nes i’r ddau ohonom deimlo fy mod yn ddigon hyderus i fynd ar fy mhen fy hun.”

Er gwaethaf ei bryderon cychwynnol, ar ôl dim ond ychydig wythnosau roedd Ryan yn mynd â chleifion ar ei ben ei hun. “Roedd y tîm yn gefnogol iawn. Fe wnaeth fy hyfforddwr swydd greu map o’r ysbyty oedd yn dangos ble roedd pob ward a daeth gyda mi hefyd i un neu ddwy o’r swyddi i ddechrau, dim ond i wneud yn siŵr fy mod yn gyfforddus.”

Mwynhaodd Ryan ei amser gyda’r adran radioleg a dechreuodd ei hyder dyfu, yn enwedig wrth ryngweithio gyda phobl eraill. Dywedodd wrthym “Roeddwn yn drist iawn pan ddaeth i ddiwedd fy nghylchdro gan fy mod yn gwybod bod y swydd hon yn rhywbeth yr oeddwn i wir eisiau ei wneud. Roeddwn i bob amser yn gofyn cwestiynau i’r tîm radioleg, yn ceisio cael awgrymiadau ar y ffordd orau o gael swydd, a allwn i wirfoddoli i wneud sifftiau llawn ac yn y blaen. Mynegais fy niddordeb i dîm Prosiect SEARCH mewn symud i faes gwahanol o fewn y tîm porthora gan fy mod yn gwybod bod llawer mwy o bethau yr oedd angen i mi eu dysgu.”

Ar ôl y Nadolig dechreuodd yr interniaid ar eu hail gylchdroadau yn yr ysbyty. Gofynnodd goruchwylydd newydd Ryan iddo beth oedd ganddo ddiddordeb ynddo a, gyda’i gilydd, fe wnaethant lunio cynllun a oedd yn sicrhau ei fod yn cael profiad ym mhob maes gwahanol o borthora.

“Roedd hi’n rhyfedd oherwydd pan ddechreuais i ddechrau gyda Prosiect SEARCH roedd y syniad o symud i wahanol ardaloedd a pheidio â chael yr un drefn bob dydd yn ddigon i godi ofn arna i. Ond erbyn hyn, roeddwn i’n gofyn i’r drefn gael ei newid a byddwn i’n dweud wrth fy ngoruchwyliwr fy mod i’n barod i wneud sifft llawn pe bydden nhw’n gadael i mi. Rhyngof fi, tîm Prosiect SEARCH a’m goruchwylydd fe wnaethon ni gytuno y byddai’n brofiad da i mi wneud un neu ddau o shifftiau llawn i gael profiad o dasgau y byddwn fel arfer yn colli allan arnynt yn ystod y dydd. Fe ges i fynd yn ôl i radioleg hyd yn oed!”

Roedd Ryan yn mwynhau bod yn borthor cymaint pan glywodd fod rhai swyddi ar gael roedd yn awyddus i wneud cais. “Roedd fy holl gydweithwyr mor gefnogol ac yn rhoi nodiadau i mi. Ond pan ddaeth mis Mawrth, roedd yn gyfnod rhyfedd iawn. Newidiodd popeth, yn gyflym iawn. Hysbysebwyd llawer o swyddi banc mewn ardaloedd gwahanol ac fe wnes gais am y rôl fel porthor a chefais fy recriwtio’n llwyddiannus. Roeddwn i o’r diwedd yn gweithio yn fy swydd ddelfrydol!”

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio 3-4 sifft yr wythnos yn dibynnu ar y galw ym mhob adran ac mae hyd yn oed wedi gweithio rhai sifftiau mewn ysbytai cymunedol eraill yn yr ardal. “Mae gen i fy sifft nos gyntaf cyn bo hir, ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am hynny. Mae’r prosiect wedi fy helpu i gael sgiliau newydd a datblygu’r sgiliau oedd gen i eisoes. Dwi nawr yn gallu siarad yn hyderus â phobl eraill, hyd yn oed pobl nad ydw I’n eu hadnabod. Wyddwn i rioed beth oedd ystyr mân siarad nes i mi ddechrau yma! Dwi’n gallu gweithio’n dda ar fy mhen fy hun ac rwy’n dechrau mwynhau gweithio fel rhan o dîm.”

Cefnogodd tîm DFN Prosiect SEARCH Engage to Change Ryan drwy gydol ei interniaeth ac maen nhw’n parhau i roi cymorth o bell drwy WhatsApp a galwadau fideo bob wythnos i wirio ei gynnydd. Dywedodd hyfforddwr y swydd wrthym am daith Ryan i gyflogaeth â thâl:
“Mae Ryan yn berson gwahanol o’i gymharu â phan ddechreuodd gyda ni am y tro cyntaf ym mis Medi. Roedd o’n eithaf swil ac yn ansicr, bob amser yn gofyn nifer o gwestiynau! Nid oedd yn credu ynddo’i hun gymaint ag yr oedden ni’n credu ynddo. Nawr mae bob amser yn chwilio am le i wella, mae ganddo bob amser nod y mae am ei chyflawni. Mae Ryan wedi meithrin profiad mor werthfawr o’r prosiect, mae wedi ei helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth ac mae hefyd wedi gorfod goresgyn rhai heriau anhygoel yn ystod dechrau ei gyflogaeth, gan weithio yn ystod y pandemig hwn. Mae Ryan yn wydn iawn ac mae bellach yn ysu i roi cynnig ar unrhyw dasg. Rydym i gyd yn falch iawn ohono.”

Mae’n amlwg bod Ryan yn frwdfrydig iawn i gyflawni ei nodau cyflogaeth. Dywedodd wrthym, “Y tu allan i weithio yn yr ysbyty rwyf wedi bod yn gweithio fel porthor cegin rhan amser ac mae hyn wedi fy helpu i baratoi ar gyfer swydd llawn amser. Fy nod yw cael contract parhaol i weithio fel porthor yn Ysbyty Gwynedd yn y dyfodol.” Gyda’i sgiliau a’i benderfyniad, rydym yn sicr y bydd Ryan ryw ddiwrnod yn cyflawni ei nod. Dal ati gyda’r gwaith da Ryan!