Chwilio yn ol llais

Elsa working in the shop“Hi Elsa!” Dyma gyfarchiad cyffredin wrth i Elsa Jones gerdded i lawr y stryd yn Llanidloes. A hithau’n amlwg yn adnabyddus yn y gymuned. Mae gan Elsa anabledd dysgu ac mae wedi bod yn gwirfoddoli yn siop elusen Hosbis Hafren ers pedair blynedd bellach. Erbyn hyn, yn dilyn lleoliadau gwaith ac anogaeth swydd trwy Engage to Change, mae hi wedi llwyddo yn ei chais am fod yn Llysgennad i hyrwyddo’r prosiect Engage to Change ar draws Cymru.

“Rwy’n mwynhau mynd allan i’r gwaith. Mae’n rhoi hyder i mi, cwrdd â phobl, cymdeithasu, ac rwy’n mwynhau cadw’n brysur,” meddai Elsa. “Rwy’n ei fwynhau cymaint.” Yn y siop elusen mae hi’n treulio ei amser yn gweini cwsmeriaid, gwisgo mannequins, didoli eitemau a roddwyd a’u gosod allan ar lawr y siop. “Rwy’n hoffi gwneud yn siŵr bod popeth yn edrych yn dda.” Un o hoff agweddau ei gwaith fu’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a datblygu ei rhai presennol, fel rheoli amser a thrin arian.

Yn benodol mae Elsa yn mwynhau agwedd gymdeithasol bod yn y gwaith, ac mae hi’n teimlo bod ei sgiliau cymdeithasol wedi gwella trwy ei gwaith. Mae Elsa, sy’n falch o sgwrsio ag unrhyw un, wedi ennyn hoffter sawl un o’r cwsmeriaid. Fel y dywedodd rheolwr y siop Issy Evans, “Mae hi’n cofio pethau am bobl, ac mae hi’n cofio eu henwau. Nid oes ganddi ofn mynd atyn nhw a dydy hi ddim yn nerfus, mae anian neis gyda hi ac mae hi’n bywiogi’r lle.”

Ers ymuno ag Engage to Change ym mis Awst 2017, mae Elsa wedi derbyn cefnogaeth gan ei hanogwr swydd Angharad a chydlynydd cyflogaeth Bethan o Agoriad Cyf, partner cyflwyno gydag Engage to Change. Gyda’r gefnogaeth hon mae hi’n gweithio ar hyn o bryd yn Ystafell De’r Buck yng Nghaersws yn gweini cwsmeriaid, golchi llestri, glanhau, gosod y byrddau a gwneud diodydd. “Angharad yw fy anogwr swydd ac mae hi’n wych,” meddai Elsa yn frwd. “Mae hi’n dod allan i’r lleoliad gwaith i weld sut rwy’n dod ymlaen, ac mae Bethan yn dod hefyd.”

Yn gynharach eleni, roedd Elsa yn gyffrous i dderbyn newyddion am gyfle newydd a fyddai’n ei galluogi i gwrdd â hyd yn oed yn fwy o bobl newydd, teithio o gwmpas Cymru a datblygu ei sgiliau – rôl Llysgennad y Prosiect Engage to Change. Mae’r rôl yn ymwneud â hyrwyddo’r prosiect o safbwynt person ifanc sydd wedi bod trwy’r broses ei hun. Yn dilyn cais a phroses gyfweld, Elsa oedd un o’r ymgeiswyr llwyddiannus ac fe ymunodd hi â set gyntaf o lysgenhadon y prosiect, wedi’i chyflogi gan y prosiect partner a mudiad hunan-eirioli, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Gyda gwên, mae Elsa yn mynegi pa mor falch yr oedd am ei rôl newydd. “Roeddwn yn falch iawn y ces i’r swydd. Mae’n brofiad da o gwrdd â phobl a chymdeithasu, a siarad am y rhaglen.” Mewn dau ddigwyddiad yn Nhreffynnon a Chaerdydd, camodd Elsa allan am y tro cyntaf ochr yn ochr â’i chyd-lysgenhadon, gan gyflwyno gwobrau a chyfarch y rhai a ddaeth i’r digwyddiadau gyda siocledi blasus a grëwyd gan Harry Specters, cwmni sydd wedi’i staffio gan bobl sydd ag awtistiaeth. Roedd Elsa ei hun hefyd yn un o’r rhai a dderbyniodd wobr, fel un o bobl ifainc y flwyddyn y prosiect.

Yn y digwyddiadau hyn roedd gan Elsa y cyfle i gwrdd a chlywed gan bobl eraill fel hi sydd wedi cael profiad o’r prosiect Engage to Change. Mae hi’n edrych ymlaen at fynychu mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol yn rhinwedd ei rôl fel Llysgennad, ac mae hi’n gobeithio cynyddu ei horiau yn yr ystafell de ac yn y siop elusen. “Ar y rhaglen mae’r bobl rydych yn cwrdd â nhw’n gyfeillgar iawn ac rydych yn cael dysgu am eu profiadau diweddar a blaenorol. Mae’n braf clywed bod pobl yn gweithio’n hynod o dda ac yn mwynhau’r rhaglen a’r profiadau dysgu newydd.”