Chwilio yn ol llais

Alex cleaning the hospital“Fy enw i yw Alex Jones ac ers mis Mawrth rwyf wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Domestig yn Ysbyty Gwynedd. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd o fy swydd fel sut i weithio gyda phobl, mae wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu, sut i ddefnyddio gwahanol offer a chynhyrchion glanhau, sut i reoli fy llwyth gwaith fy hun yn annibynnol ac yn bwysicaf oll sut i barhau i weithio’n ddiogel yn ystod pandemig Covid19.

Yn ystod fy interniaethau gyda Prosiect SEARCH dysgais sut i lanhau swyddfeydd, coridorau, wardiau, baeau, toiledau ac ati. Rwyf bellach yn gwbl hyblyg a gallaf gwmpasu unrhyw ardal yn ôl yr angen. Pan ddechreuais yn yr adran ddomestig roeddwn yn gyfrifol am gadw’r coridor gweithredol lle’r oeddwn yn glanhau’r toiledau, y llyfrgell, y ceginau, a’r coridorau ac yn gwagio biniau yn y swyddfeydd. Mae bod yn Gynorthwyydd Domestig yn swydd gorfforol iawn ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cadw i fyny. Oherwydd fy mod yn glanhau’r ystafelloedd seminar a’r ystafelloedd cyfarfod roedd yn rhaid i mi feddu ar sgiliau cadw amser da trwy gadw llygad ar y sgrin i weld pryd roedd yr ystafelloedd yn wag.”

Ymunodd Alex â rhaglen interniaeth Engage to Change DFN Prosiect SEARCH ym mis Medi 2019 gydag ychydig iawn o brofiad gwaith blaenorol a dim syniad clir o ba fath o waith yr oedd am ei wneud. Pan ddechreuodd ddysgu am y gwahanol adrannau yn yr ysbyty, credai Alex y gallai weithio fel porthor ond awgrymodd tîm Engage to Change DFN Prosiect SEARCH y gallai ei sgiliau fod yn fwy addas ar gyfer yr adran ddomestig. I ddechrau, nid oedd Alex mor siŵr “Roeddwn i’n eithaf amharod ar y dechrau gan nad oeddwn yn fawr o lanhawr.”

Fodd bynnag, ar ôl ychydig wythnosau yn unig daeth Alex yn gyfforddus gyda’i drefn newydd fel Cynorthwyydd Domestig. Roedd ei oruchwyliwr yn hapus iawn gyda’i gynnydd, i’r fath raddau fel bod Alex wedi cael gwaith ychwanegol i’w wneud. Esboniodd Alex, “Roeddwn i’n gorffen fy ngwaith yn gynnar felly fe wnaethon nhw roi ardal ychwanegol i mi ei glanhau sef yr adran anesthetig. Roeddwn yn eithaf nerfus gyda mynd i lanhau rhywle newydd ac roeddwn angen cefnogaeth gan fy hyfforddwr swydd ar y dechrau. Unwaith i mi ddod yn gyfforddus, fe wnes i barhau i orffen fy nhasgau ychydig ynghynt a chefais gynnig profiad yn rhywle gwahanol – ar Ward Alaw.”

Roedd Alex ychydig yn bryderus am weithio ar y wardiau gan ei fod yn gwybod y byddai’n dod ar draws cleifion a oedd yn sâl iawn ond, gyda rhywfaint o sicrwydd gan ei hyfforddwr swydd, penderfynodd Alex y byddai’n rhoi cynnig arni. Ar Ward Alaw, cafodd gefnogaeth gan fentor o’r enw Colette. Yn ôl Alex, “Roedd Collette yn groesawgar iawn ac fe wnaeth i mi deimlo’n gartrefol ar unwaith. Fe roddodd dasgau bach i mi eu cwblhau ar y dechrau ac yna dechreuodd adeiladu fy llwyth gwaith. Ar ôl cwpl o wythnosau, roeddwn i’n siarad â chleifion yn hyderus, yn gweithio o dan fy menter fy hun a chefais fy mae a fy nghiwbiclau fy hun i’w glanhau. Yna symudwyd fi ymlaen i gwmpasu tair ward brysurach gyda mentor gwahanol. Ni allwn gredu pa mor gyflym yr oedd pethau’n newid. Roeddwn i’n arfer bod ofn newid yn y dechrau ond erbyn hyn rydw i bob amser yn barod am yr her.”

Ym mis Chwefror, dechreuodd Alex lanhau mewn ardal newydd arall, yr adran gyfleusterau y tro hwn: “Roedd hyn yn golygu y byddwn yn dod ar draws fy ngoruchwylwyr a rheolwr drwy’r amser! Mae yna lawer o fynd a dod yn yr ardal hon ond rydw i bob amser yn cyfarch pob unigolyn â gwên a gair caredig yn enwedig yn ystod yr amseroedd caled hyn.”

Cyn ymuno â’r rhaglen interniaeth, roedd Alex yn astudio Sgiliau Bywyd yng Ngholeg Llangefni ar ôl gorffen yn yr ysgol y flwyddyn flaenorol. Dywedodd wrthym “Rwy’n cofio dod i ddiwrnod agored y Prosiect SEARCH yn Ysbyty Gwynedd ac roedd yn ymddangos yn ddiddorol iawn ond roeddwn yn eithaf nerfus. Gan mai dim ond yn fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg oeddwn i, doeddwn i ddim yn siŵr ai hwn oedd y cam iawn i mi. Ond ar ôl siarad â’r tîm, gofyn cwestiynau a chael fy nhywys o gwmpas, roeddwn i’n gwybod bod y cwrs hwn i mi.”

Y tu allan i’r gwaith, mae Alex yn arddwr brwd ac erbyn hyn mae’n mwynhau mynd i’r sinema gyda ffrindiau neu fynd am dro ond nid oedd hyn yn wir bob amser. Dywedodd Alex wrthym, “Cyn ymuno â’r prosiect, nid oeddwn i’n gwneud llawer. Doeddwn i ddim yn gadael y tŷ mewn gwirionedd. Ond nawr mae gen i grŵp gwych o ffrindiau rydw i’n mynd i wylio ffilmiau gyda nhw a theithio i ddinasoedd fel Lerpwl. Mae fy mywyd wedi newid cymaint o fewn blwyddyn ac rwy’n ddiolchgar iawn i dîm y Prosiect Engage to Change am fy nghefnogi drwy’r cyfnod pontio o addysg i waith.”

Mae hyfforddwr swydd Alex wir wedi sylwi ar y gwahaniaeth ynddo ers iddo ymuno â’r prosiect yn ôl ym mis Medi. “Pan wnaethon ni gwrdd ag Alex am y tro cyntaf roedd yn eithaf swil, yn geidwadol iawn ei ffyrdd ac nid oedd yn hoffi newid. Nid oedd yn credu yn ei alluoedd ei hun ar y dechrau ond ychydig fisoedd i lawr y llinell mae wedi newid o fod yn fyfyriwr i fod yn weithiwr dibynadwy i’r GIG. Rydym yn derbyn adborth disglair gan ei reolwr sydd wedi ei ddisgrifio fel gweithiwr perffaith.”

Pan ddechreuodd ei interniaeth gyntaf, roedd angen rhywfaint o gefnogaeth ar Alex i ddod o hyd i strwythur i’w lwyth gwaith felly dyluniodd yr hyfforddwr swydd restr wirio iddo ei dilyn. Unwaith iddo ddod yn gyfforddus yn ei faes, nid oedd angen y rhestr wirio arno mwyach, ac o’r blaen pan oedd y disgwyliad o gael ei symud i ardal arall yn syniad eithaf brawychus, mae Alex bellach yn barod i wirfoddoli i helpu mewn gwahanol rannau o’r ysbyty. Yn ôl ei hyfforddwr swydd, “Mae Alex wedi dod mor wydn ac addasadwy nes ei fod wedi glanhau tua wyth ardal wahanol. Rydym yn edmygu Alex gymaint am ei frwdfrydedd a’i etheg gwaith. Mae’n glod i’r tîm domestig. Da iawn Alex!”