Chwilio yn ol llais

Kiara working in the hospital canteen“Fy enw i ydy Kiara Gisbourne ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel cynorthwyydd arlwyo banc yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn ystod y pandemig. Fy hoff ran o’r swydd yw gweini bwyd ar wregys y claf. Weithiau, fi fydd yng ngofal y pwdinau, dyddiau eraill byddaf ar y tatws/sglodion neu ar y llysiau.

Pan fydda i’n gweithio ar y gwregys, mae’n rhaid i mi ganolbwyntio gan ein bod yn gweini bwyd i fwy na 500 o gleifion y dydd. Rwyf hefyd yn mwynhau clirio’r ystafell fwyta oherwydd rwy’n cael sgwrsio â’r ymwelwyr, y staff a’r cleifion sy’n dod i lawr i’r ffreutur.”

Cyn ymuno â rhaglen interniaethau â chefnogaeth Engage to Change DFN Prosiect SEARCH, roedd Kiara yn astudio’r cwrs ‘Camu Ymlaen i Waith’ yng Ngholeg Llangefni. Roedd y cwrs yn cynnwys lleoliad profiad gwaith mewn tafarn leol ac yn ôl Kiara, dyma lle dechreuodd ei diddordeb mewn gwasanaeth cwsmeriaid. Yn ystod ei hamser yn y dafarn, roedd Kiara yn gweini cwsmeriaid, yn trin arian, yn glanhau ac ati. Trwy gael y cyfle i weithio yn yr adran arlwyo yn Ysbyty Gwynedd, fe wnaeth yn alluogi Kiara i ddatblygu’r sgiliau yr oedd wedi’u hennill yn y dafarn ymhellach.

“Dechreuais y Prosiect SEARCH ym mis Medi 2019 a dechreuais fy nghylchdro cyntaf mewn gweinyddiaeth. Roedd hyn yn rhywbeth newydd i mi ac roeddwn i’n gyffrous i roi cynnig arno ond ar ôl cwpl o wythnosau sylweddolais nad oedd y swydd i mi. Penderfynodd tîm y Prosiect Search a minnau y byddai’r adran arlwyo yn gweddu i’r sgiliau sydd gen i – ac mae’n bendant yn gwneud hynny!

Pan ddechreuais fy nghylchdro yn yr adran arlwyo ym mis Ionawr roeddwn yn eithaf ofnus ac yn amharod i wthio fy hun i roi cynnig ar dasgau newydd. Ond ar ôl y gefnogaeth gan fy hyfforddwr swydd a fy nghydweithwyr yn yr adran, datblygodd fy hyder a gallwn siarad â chwsmeriaid, gweithio ar y peiriant golchi llestri a’r gwregys cleifion. Nawr rwy’n gwirfoddoli i roi cynnig ar bethau newydd yn y gwaith bob dydd.”

Trwy raglen Engage to Change DFN Prosiect SEARCH, mae Kiara wedi gallu ymgeisio am wahanol swyddi y tu allan i’r ysbyty ac wedi cael cyfweliad â chadwyn siop goffi fawr ym Mangor. Fe wnaeth hyfforddwr swydd Kiara ei helpu i baratoi ar gyfer y cyfweliad a derbyniodd adborth da iawn gan y rheolwr a ddywedodd ei bod yn hyderus, yn gwrtais ac yn gallu siarad am ei phrofiadau yn dda iawn.

Gan adlewyrchu ar y cyfweliad, eglurodd Kiara “Roedd y rhain yn bethau yr oeddwn i wedi’u dysgu o fynd i glwb swyddi’r Prosiect Search yn ogystal ag amser ystafell ddosbarth yn y bore. Yn anffodus oherwydd y sefyllfa bresennol, nid oedd y siop goffi yn gallu dod yn ôl ataf ond roedd yn brofiad da sydd wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i nawr ”.

Er nad oedd Kiara ac interniaid eraill Engage to Change DFN Prosiect SEARCH i fod i raddio tan fis Mehefin, yng ngoleuni’r argyfwng coronafeirws presennol, penderfynodd yr ysbyty gyflogi sawl un o’r interniaid cyn graddio felly dechreuodd Kiara weithio fel cynorthwyydd arlwyo yn Ysbyty Gwynedd ym mis Mawrth yn swyddogol.

Mae Kiara yn amlinellu ei hwythnos waith yn ei rôl newydd: “Mae’n gontract banc felly mae’r sifftiau’n wahanol bob wythnos. Fel rheol, rydw i’n gweithio tua 3 sifft yr wythnos, gan ddechrau am 9am a gorffen am 3pm. Mae fy mhrif dasgau yn y gwaith yn cynnwys gweini cwsmeriaid ar y gwasanaeth, glanhau’r ystafell fwyta, gweini bwyd ar wregys y cleifion, defnyddio’r peiriant golchi llestri a stocio i fyny. Rwy’n llawer mwy hyderus yn y gwaith nawr a gallaf weithio ar wahanol orsafoedd ar y gwregys cleifion a’r peiriant golchi llestri ar fy mhen fy hun ac ar gyflymder da. ”

Mae hyfforddwr swyddi Kiara a gweddill tîm Engage to Change DFN Prosiect SEARCH  yn falch iawn o ba mor bell mae hi wedi dod ers ymuno â’r rhaglen ym mis Medi: “Mae hi wedi blodeuo yn weithiwr caled iawn. Roedd hi bob amser yn arddangos agwedd galluog ac yn awyddus i roi cynnig ar unrhyw interniaeth. Mynegodd ddiddordeb mewn gweinyddiaeth ar y cychwyn cyntaf felly fe wnaethom roi profiad iddi yn y maes hwn. Fodd bynnag, ar ôl ychydig wythnosau, sylweddolodd y tîm a Kiara ei hun nad oedd y maes gwaith hwn yn cyfateb i’w set sgiliau.”

Yn ystod ei lleoliad cyntaf mewn gweinyddiaeth, roedd hyfforddwr swyddi Kiara yn ei chefnogi bob dydd i’w helpu i gadw ffocws a chymhelliant i gwblhau tasgau. Fodd bynnag, roedd Kiara yn cael trafferth canolbwyntio ac yn teimlo bod rhai o’r tasgau’n eithaf diflas. Newidiodd hyn i gyd pan newidiodd Kiara i’w hail gylchdro ym mis Ionawr pan gafodd ei rhoi yn yr adran arlwyo. Yn ôl hyfforddwr swydd Kiara, “Dyma’n bendant yr adeg pan ddaethon ni o hyd i’w maes arbenigol!”

Mae ei sgiliau pobl yn amlwg yn un o’r rhesymau mae Kiara mor addas i’w rôl, fel yr eglura ei hyfforddwr swydd: “Mae Kiara yn naturiol gyda phobl eraill ac mae mor ddymunol a chwrtais. Pan mae’n cael ei rhoi mewn sefyllfa tîm mae hi bob amser yn barod i helpu ond roedd hi’n eithaf nerfus weithiau wrth roi cynnig ar dasgau yn annibynnol. Ond nawr mae Kiara yn barod i roi cynnig ar unrhyw dasg! Mae hi’n llawn cymhelliant a bydd hyd yn oed yn teimlo’n eithaf digalon pan nad oes ganddi sifft. Mae Kiara bellach wedi rhoi ei henw i lawr i gael ei galw i mewn i weithio munud olaf i gwmpasu sifftiau. Mae hi’n wirioneddol awyddus i ennill mwy o brofiad a symud ymlaen yn yr adran arlwyo.”

Mae Kiara yn amlwg yn mwynhau ei rôl yn yr adran arlwyo ac mae eisoes yn edrych i’r dyfodol: “Mae gweithio yn yr ysbyty wedi dysgu llawer o sgiliau gwahanol i mi fel sut i weithio’n dda mewn tîm, cyfathrebu ag eraill a gwella fy sgiliau canolbwyntio. Rwy’n mwynhau bod yn brysur, sy’n gwneud y ffreutur yn amgylchedd gwaith perffaith i mi. Fy nod ar gyfer y dyfodol yw parhau i weithio yn amgylchedd yr ysbyty a datblygu fy hun gan ddefnyddio’r profiadau rydw i’n eu cael.”