Chwilio yn ol llais

“Fy enw i yw Elenid Williams ac ers mis Mawrth rwyf wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd banc yn Ysbyty Gwynedd yn ystod y pandemig. Rwy’n angerddol iawn am ofalu am bobl ac mae wedi bod yn freuddwyd i mi weithio mewn ysbyty o oedran ifanc iawn.”

Fy mhrif gyfrifoldebau yw gofal personol, arsylwi cleifion, casglu meddyginiaethau o’r fferyllfa, dosbarthu cinio cleifion a’u bwydo os oes angen yn ogystal â chadw popeth yn lân ac yn ddiogel. Ar hyn o bryd mae fy sifftiau’n dechrau am 8am ac rwy’n gorffen am 4pm ond rwy’n gweithio tuag at allu gweithio sifft 12 awr yn ogystal â chwpl o sifftiau nos yn fuan”.

Yn flaenorol, roedd Elenid wedi bod yn gweithio’n rhan-amser fel gweinyddes mewn canolfan arddio leol yng Nghaernarfon lle bu iddi gyfarfod â grŵp o interniaid blaenorol yn ystod eu taith gerdded noddedig. Cafodd sgwrs gyda’r tîm a, phan ddysgodd fwy am y prosiect Engage to Change, roedd hi’n gyffrous ynglŷn â’r posibilrwydd o allu gwireddu ei breuddwyd i weithio ym maes gofal.

“Roeddwn wedi bod â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal am gyfnod a gwnes brentisiaeth mewn gofal plant yn ogystal â gwirfoddoli ar ward y plant yn Ysbyty Gwynedd. Sylweddolais fy mod angen ychydig o gefnogaeth i gyrraedd fy nod ac ar ôl siarad â thîm Project Search roeddwn yn meddwl y gallent fy helpu i gyrraedd fy nod.”

Pan ymunodd Elenid â’r rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH  yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf, nid oedd wedi bod yn y coleg ers cwpl o flynyddoedd ac roedd yn poeni i ddechrau am fod yr aelod hynaf yn y grŵp a’r ffaith nad oedd hi wedi bod mewn lleoliad academaidd am beth amser. Fodd bynnag, nid oedd angen i Elenid boeni gan ei bod wir wedi mwynhau ei hyfforddiant, yn enwedig pan ddechreuodd ddysgu sut i wneud mesuriadau ffisiolegol ac am rôl cynorthwyydd gofal iechyd.

Cylchdro cyntaf Elenid oedd fel gweithiwr cymorth gofal iechyd ar Ward Prysor yna ar ôl tua 10 wythnos symudodd ymlaen i Ward Glyder i ennill mwy o brofiad. Dywedodd Elenid wrthym “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cefnogaeth gan dimau mor wych ar y wardiau yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi bod yn ddeallgar iawn am y ffordd rwy’n dysgu. Maen nhw’n gwybod ei bod hi’n cymryd ychydig mwy o amser i mi ddysgu pethau ond mae pawb yn amyneddgar iawn ac yn hapus i helpu.”

Gweithiodd y tîm Engage to Change DFN Project SEARCH yn agos gydag Elenid a’r staff ar y ward trwy gydol ei hinterniaeth i’w galluogi i ddatblygu ei sgiliau a dangos ei galluoedd. Esboniodd Elenid “Rwy’n caru pob rhan o fy swydd yn enwedig cymryd pwysedd gwaed, sef un rhan o’r swydd yr oeddwn i’n ei chael yn anodd y dechrau. Cefnogodd fy hyfforddwr swydd fi trwy fy annog i wneud yr hyfforddiant mesuriadau ffisiolegol eto pan ddechreuais ar y ward newydd ac fe helpodd hyn fi i gofnodi arsylwadau yn gywir ac yn hyderus.”

Yn ôl ei hyfforddwr swydd, “Mae Elenid wedi gweithio’n galed iawn ers mis Medi ac mae wedi bod yn amlwg ei bod hi’n angerddol am ofalu am eraill. Roedd angen rhywfaint o gefnogaeth ac arweiniad arni ynglŷn â chiwiau cymdeithasol megis pryd i fynd at rywun am sgwrs a’r hyn y gallwch ei drafod gyda chydweithwyr ond cymerodd Elenid yr holl gyngor yn dda iawn. Bu’r tîm yn monitro cynnydd a pherfformiad Elenid trwy gyfarfodydd mynych â staff y ward ac Elenid ei hun. Rydyn ni’n falch iawn o ba mor bell mae Elenid wedi dod, mae hi’n naturiol gyda chleifion, maen nhw’n mwynhau ei chwmni ac mae ei gwên yn goleuo’r ward.”

Y tu allan i’r gwaith mae Elenid yn hoffi cymdeithasu gyda’i ffrindiau a threulio amser gyda’r teulu. Mae hi hefyd yn mwynhau ymweld â lleoedd newydd a chynllunio teithiau i wahanol ddinasoedd gyda ffrindiau. Mae ymuno â’r rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH wedi cael effaith fawr ar fywyd Elenid ac wedi rhoi cyfle iddi ddilyn ei breuddwyd:

“Mae’r swydd hon wedi cael effaith fawr ar fy mywyd. Yr adeg hon y llynedd, ni fyddwn erioed wedi dyfalu y byddwn yn gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd yn fy ysbyty lleol. Rwyf mor falch fy mod yn mynd i weithio yn gwisgo fy sgrybs a gofalu am gleifion yn ystod yr amser ofnadwy hwn. Mae’r swydd yn rhoi llawer o foddhad ac rydw i’n mwynhau pob eiliad ohoni.”

Da iawn Elenid!