Chwilio yn ol llais

Ymunodd Liam â’r prosiect Engage to Change ym Medi 2016. Roedd ganddo diddordeb mawr mewn garddio, ac roedd yn eiddgar i gael cyflogaeth. Sefydlwyd lleoliad profiad gwaith yn Hazel Court fel Cynorthwy-ydd Ystadau am ddau wythnos, ac wedi hyn cymerwyd ef ymlaen gyda chontract 15 awr dros tair diwrnod.

Mae Hazel Court yn sefydliad ymddeol a gwarchod. Adeiladwyd yn 2008 gyda 128 fflat. Roedd swydd Liam yn cynnwys amrywiaeth o ddyletswyddau, yn amrywio o gasglu sbwriel, golchi ‘jet’ a gwaith cynnal a chadw cyffredinol, i olchi dillad ar gyfer un o’r preswylwyr. Ar ôl sawl wythnos fe ddaeth yn amlwg bod yr amrywiaeth o dasgau yn heriol i Liam, felly cawsom gyfarfod i edrych ar ddatblygu’r rôl. Trafodwyd rolau amgen o fewn y sefydliad, ac roedd y cyflogwr yn gallu cytuno ar newid i swydd Liam. Dechreuodd weithio yn yr Adran Garddio. Roedd Liam wrth ei fodd i gael cyfle arall, ac fe ddechreuodd y swydd newydd yma yn Ionawr 2017.

Ers dechrau gweithio yn yr adran garddio, mae Liam wedi ffynnu yn y swydd. Mae’n gwbl wrth ei fodd yn gweithio yn yr awyr agored, nid oes ots pa dywydd. Mae ei dyletswyddau yn cynnwys torri’r lawntiau, golchi ‘jet’, casglu sbwriel, a defnyddio’r peiriant chwythu i olchi lan. “Mae’n gwneud swydd gwych,” meddai rheolwr newydd Liam amdano, “mewn gwirionedd mae’n gwneud y golchi ‘jet’ yn llawer well ac yn lanach na cyflogeion sydd wedi gweithio amdanaf am dros 14 mlynedd!”

Mae Gill, hyfforddwr swydd Liam, wedi sylwi bod hyder Liam wedi tyfu, mae e llawer yn fwy cyffyrddus yn gweithio gyda’i cydweithwyr newydd ac yn dod ymlaen yn dda gyda’r tîm newydd.

Stori gan ein partneriaid ELITE Supported Employment.